Priodasau
Fel gwlad sy’n enwog am ei beirdd, mae Cymru yn lle perffaith i ramantwyr. Gyda chyfoeth o chwedlau, llên-gwerin a diwylliant, mae’r ardal hon o rostiroedd, mynyddoedd ac arfordiroedd prydferth wedi ysbrydoli nifer o straeon serch adnabyddus – gan gynnwys eich stori chi.
Dyma leoliad perffaith i gynnal priodas, gan fod TÅ· Afon yn fan cyfarfod afonydd a chariadon.
Os ydych yn chwilio am becyn priodas cwbl unigryw, TÅ· Afon yw’r dewis perffaith. Gallwn gynnig profiad personol, mewn lleoliad tlws sydd â chysylltiad agos â hanes pentref Beddgelert, a gallwch logi’r gwesty cyfan os ydych yn dymuno. Gall cyplau ddewis rhwng priodas draddodiadol mewn eglwys neu seremoni yn y gwesty.
​
Cynhelir ein priodasau traddodiadol yn Eglwys y Santes Fair, a oedd yn rhan o briordy Awstinaidd ar un cyfnod.
Gall ein gwesty a’r tiroedd amgylchynol gynnal pabell fawr, llawr dawnsio a bar – chi piau’r dewis. Trwy ddod â’r holl elfennau ynghyd yn unol â’ch dymuniadau, ein nod yw cynnig gwasanaeth pum seren yn ein lleoliad priodas Cymreig. Mae TÅ· Afon yn lle perffaith i chi aros cyn y briodas ac ar ôl y seremoni hefyd, gan roi cyfle i chi dreulio amser gwerthfawr gyda’ch anwyliaid yn ystod un o ddigwyddiadau pwysicaf eich bywyd.
​
Yng Nghymru ers talwm roedd yn cael ei ystyried yn lwc dda i’r briodferch gael ei deffro gan gân yr adar ar fore ei phriodas. Yng ngwesty TÅ· Afon, mae cân yr adar a’r afon yn cynnig trac sain tangnefeddus. P’un a ydych chi’n cynllunio priodas fach, agos-atoch, neu ddathliad mawr, bydd gennych y rhyddid a’r dewis i drefnu’r cyfan yn union fel y mynnwch.
​
Cysylltwch â ni heddiw weddings@tyafon.co.uk neu ffoniwch 01766 800 700