Aros
Plasty gwledig TÅ· Afon yng nghesail y mynyddoedd yw’r lleoliad perffaith i fwynhau gwyliau rhamantus yng nghanol golygfeydd gwych Gogledd Cymru.
Gyda phob math o atyniadau gerllaw fel Zipworld, Llandudno, Rheilffordd Eryri a phentref Portmeirion, gall eich gwyliau yng nghefn gwlad Cymru fod mor hamddenol neu gyffrous ag y dymunwch. Mae pob un o’r ystafelloedd boutique yng ngwesty TÅ· Afon wedi’u hysbrydoli gan deimlad o hiraeth i greu naws gartrefol braf.
Ystafell Fawr Maint Brenin
Mae’r Ystafell Mawr Maint Brenin yn cyfuno llonyddwch a phrydferthwch naturiol yr awyr agored, ac yn cynnwys yr eitemau hanfodol ynghyd â nwyddau moethus o ffynonellau cynaliadwy. Gallwch fwynhau golygfeydd o’r mynyddoedd uchel, coedwigoedd tywyll a chaeau gwyrdd eang.
Ystafell Maint Brenin
Mae’r Ystafell Maint Brenin yn cyfuno moethusrwydd a chyffyrddiadau sy’n gyfeillgar i’r
amgylchedd, i greu hafan ramantus. Mae’r ystafell wedi’i hysbrydoli gan yr awyr agored a gall gwesteion fwynhau golygfeydd godidog o barc cenedlaethol mwyaf Cymru.
Ystafell i’r Teulu
Mae’r Ystafell i’r Teulu yn addas i ddau oedolyn a dau o blant a chafodd ei chynllunio gyda’r nod o greu atgofion a chael anturiaethau. Ar ôl diwrnod o grwydro a mwynhau fel teulu yn yr awyr agored, gall y teulu swatio’n braf yn yr ystafell glyd i wrando ar straeon amser gwely am hen gestyll Cymreig wedi’u hamddiffyn gan ddreigiau ffyrnig.
Ystafell Dau Wely
Mae Ystafelloedd Dau Wely moethus a chyfoes TÅ· Afon yn hafan braf ymhell o bryderon bywyd bob dydd. Yn ogystal â’r cyfleusterau hanfodol a golygfeydd godidog, mae gan bob ystafell olygfeydd gwych o baradwys cefn gwlad Cymru.