top of page
Image by Red Morley Hewitt

Crwydro

 

Ar ôl croesi’r bont garreg ger TÅ· Afon, gallwch gerdded i bentref Beddgelert yng nghanol Eryri, y lle perffaith i fwynhau rhai o olygfeydd gorau Parc Cenedlaethol Eryri. 

 

Dyma ardal sy’n adnabyddus am ei chwedlau a’i llên-gwerin, ac mae’r tiroedd o’n cwmpas yn frith o dai cerrig â thoeau llechi, a ffyrdd troellog sy’n arwain i’r coedwigoedd, bryniau a’r arfordir.

Pattern-01.png

Bwyta Allan

Rhai o'n hoff lefydd i fwyta

Image by Neil Mark Thomas

Crwydro a mwynhau yn yr awyr agored 

Y Llwybr Gorau i ben yr Wyddfa

Mae dros 500,000 o bobl yn dringo mynydd eiconig yr Wyddfa bob blwyddyn. Mae’n bosibl mai’r dyma’r rheswm y cawsoch chi eich denu i’r ardal. Mae chwe llwybr yn arwain i’r copa, ond i fwynhau’r golygfeydd gorau, Llwybr y Mwynwyr yw’r dewis gorau yn ôl y sôn.

Piazza from Unicorn view_edited.jpg

Diwrnod Allan 1

Mwynhewch y golygfeydd wrth i chi yrru i bentref Portmeirion gerllaw, lle gallwch dreulio’r bore yn rhyfeddu at yr harddwch Eidalaidd, gan oedi o bosibl i weld gwaith celf yr artist preswyl diweddaraf. Gallech fwynhau te prynhawn bendigedig yn y pentref cyn teithio i orsaf Rheilffordd Eryri gerllaw i ddechrau ar daith anhygoel ar y trên stêm drwy’r parc cenedlaethol.

Diwrnod Allan 2

Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch am dro ar hyd darn hyfryd o Lwybr Arfordir Cymru o harbwr Porthmadog i bentref Borth-y-Gest. Gallwch ddilyn taith hirach a dringo Moel y Gest ar y ffordd yno neu’n ôl i fwynhau golygfeydd anhygoel ar draws Pen LlÅ·n. Byddwch yn haeddu pryd o bysgod a sglodion blasus ar ôl cwblhau’r daith hon.

Lleoedd Da i Ymweld â Nhw

Mae Castell Harlech, pentref alpaidd Betws-y-coed, y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol ac AHNE LlÅ·n oll o fewn cyrraedd hwylus i’r gwesty. Ond mae llawer mwy i’r ardal na maes chwarae ar gyfer pobl sy’n mwynhau antur, galllwch ddod o hyd i ddigonedd o safleoedd treftadaeth a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw hefyd.

Ty-Afon-Explore-Paddleboarders.jpg
bottom of page