Dathliadau
Mae gan Gymru ddiwylliant o ganu, dathlu a dod ynghyd, a TÅ· Afon yw’r lle perffaith i gynnal eich digwyddiad arbennig.
Gall y teulu, ffrindiau ac anwyliad gyfarfod yma, gallwch logi’r gwesty cyfan a mwynhau’r holl bethau sydd i’w gweld a’u mwynhau gerllaw
Gyda dewis o ystafelloedd gwely moethus, bar a llawr dawnsio, mae TÅ· Afon yn lle delfrydol i ddathlu pen-blwyddi pwysig, digwyddiadau tymhorol, neu aduniad gyda’ch anwyliaid.
Bydd gwesteion ifanc wrth eu bodd â’r holl weithgareddau sydd ar gael yn yr ardal, fel gwifrau gwib, ogofâu a chwaraeon dŵr, neu gall y rheini sy’n mwynhau gweithgareddau mwy hamddenol fynd am dro yn y wlad, gwylio adar ac ymweld â safleoedd treftadaeth. Gyda’r nos, gall pawb ddod ynghyd o amgylch y pwll tân, gan edrych tua’r awyr i ryfeddau at y cytserau clir sydd i’w gweld yn y warchodfa Awyr Dywyll.
Cysylltwch â Ni: E-bost events@tyafon.co.uk a Rhif Ffôn 01766 800 700