Parc Cendlaethol Eryri yw un o 18 Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn unig yn y byd, lle gallwch weld cytser Cassiopeia, y Llwybr Llaethog, ac o bryd i’w gilydd, hyd yn oed yr aurora borealis, â’r llygad noeth. Wrth i fantell ddu y nos ymestyn dros y tir, bydd byd newydd yn deffro uwchben. Mae’r sêr gwib yn disgleirio wrth iddynt godi uwchben y dyffrynnoedd tawel, mae golau’r lleuad yn cusanu’r hen waliau cerrig hynafol, ac mae Seren y Gogledd fu unwaith yn arwain ein bugeiliaid a’n morwyr yn aros yn gadarn yn ei lle.
Ynghyd â thanllwyth o dân agored, teithiau cerdded gaeafol a diodydd cynnes, awyr y nos yw un o’n hoff bethau ynglŷn â’r gaeaf yng ngwesty Tŷ Afon. Mae ehangder y cefn gwlad tawel o’n cwmpas yn golygu nad oes fawr ddim llygredd golau yma, gan roi awyr glir iawn i ni. Nid ni yw’r unig rai sy’n mwynhau nosweithiau tywyll y gaeaf, maent yn hynod o bwysig i fywyd gwyllt lleol hefyd, fel ystlumod, tylluanod ac adar eraill sy’n dibynnu ar olau’r haul a’r lleuad i ddod o hyd i’r ffordd.
Beth yw ‘gwarchodfa awyr dywyll’?
Gwarchodfa Awyr Dywyll yw ardal o dir lle nad oes llygredd golau, neu fawr ddim, a’r nod yw sicrhau bod yr ardal yn aros felly. Mae’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn diffinio ardal o’r fath fel ‘tir cyhoeddus neu breifat sy’n meddu ar ansawdd eithriadol neu ragorol o nosweithiau serog ac sy’n cael ei amddiffyn yn benodol oherwydd ei nodweddion gwyddonol, naturiol, addysgol, diwylliannol, treftadaeth a/neu fwynhad cyhoeddus. Mae gwarchodfeydd yn cynnwys ardal graidd sy’n bodloni meini prawf gofynnol ar gyfer ansawdd yr awyr a thywyllwch naturiol, ac ardal ymylol sy’n helpu i warchod yr awyr dywyll yn y canol.’
Enillodd Parc Cenedlaethol Eryri statws gwarchodfa awyr dywyll yn 2015. Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ardystiad IDA hefyd, gan olygu fod ardal eang iawn o Gymru yn cael ei gwarchod. Cafodd Eryri ei henwebu hefyd fel y lle gorau yn y byd i wylio sêr wrth groesawu heuldro’r gaeaf.
Pa gytserau gallaf eu gweld yn Eryri yn ystod y gaeaf?
Ar noson glir, mae miliynau o sêr yn goleuo awyr Eryri – ac mae rhai ohonynt yn rhan o gytserau allweddol. Mae’r cytserau hyn yn tarddu o ffynonellau Groegaidd ac mae 88 ohonynt yn cael eu cydnabod yn ffurfiol gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol a sefydlwyd yn 1922. Rydym yn gwybod fod morwyr ac anturiaethwyr y gorffennol wedi dibynnu arnynt i fordwyo a llywio wybrennol, ac mae pobl wedi rhyfeddu at batrymau’r sêr ar hyd yr oesoedd. Diolch i weithiau celf hynafol, gan gynnwys lluniau ogofâu Lascaux yn Ffrainc, sy’n cyfeirio at ein cytserau heddiw, rydym yn gwybod i’r cytserau hyn gael eu creu tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
P’un a ydych chi’n ceisio creu eich gwaith celf eich hun neu rydych eisiau gweld y sêr yn ystod eich arhosiad, gallwn gadarnhau fod Orion, y Saith Chwaer, Yr Aradr a’r Llwybr Llaethog i’w gweld yn aml ar noson glir yn y gaeaf. Mae tiroedd preifat eang Tŷ Afon yn lle gwych i wylio’r sêr – felly beth am fentro allan gyda blanced gynnes a fflasg o rywbeth cynnes?
Commentaires